Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (117)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ardrethi Busnes (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid - Gohiriwyd tan 23 Ebrill |
5. Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2012-13 (30 munud) NDM5162 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2013. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: I) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; II) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; III) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; IV) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a V) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau Ategol: |
6. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (60 munud) NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a
chyfraniad menywod yng Nghymru. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru.
|
7. Dadl ar Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith Gymraeg (60 munud) NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn nodi bod:
(a) y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg;
(b) y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac
(c) y Gweinidog yn bwriadu gwneud gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, reoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.
Gellir gweld safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg drwy ddilyn y linc isod: http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/manylioncyhoeddiad.aspx?publicationid=50faecf9-67bb-4058-af3c-9ecdc6d14739&year=2012
Gellir gweld ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg drwy ddilyn y linc isod:
http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/manylioncyhoeddiad.aspx?publicationid=3b166697-643b-435d-ac82-463543fb5cae&year=2012 Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu ein bod, dros ddwy flynedd ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn parhau i fod yn bell iawn o fabwysiadu set ffurfiol o safonau ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg. Gellir gweld Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, fel y’i
pasiwyd, drwy ddilyn y linc isod: Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.
|
8. Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (60 munud) Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil
Mae’r
gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u
trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn: 28, 29, 14, 26,
15A, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24 2. Cynllun dirprwyo 2, 3
3. Aelodau sy’n gyflogeion SAC 4, 5, 6, 7, 25
4. Cynllun blynyddol 8, 9, 11
5. Paratoi adroddiadau interim 10, 12, 13
6. Trosglwyddo staff i SAC 1*, 1A*, 27 * Caiff y
gwelliannau hyn eu gwaredu yn y drefn a ganlyn—1A,
1 |
9. Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (5 munud) Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 6 Mawrth 2013